Yr Ysgol Gymunedol
Sylfaen i`r dyfodol mewn awyrgylch gartrefol
Ysgol gymysg 11-16 oed fechan yw Ysgol y Moelwyn. Lleolir hi ar gyrion tref arbennig Blaenau Ffestiniog a gwasanaetha ardal ddaearyddol eang gan gynnwys tref Blaenau Ffestiniog, Tanygrisiau, Manod, Llan Ffestiniog, Maentwrog, Gellilydan a Thrawsfynydd.
Mae Ysgol y Moelwyn yn ysgol sy’n gofalu am ei disgyblion gyda`i gwreiddiau yn ddwfn yn y gymuned. Yma mae pob plentyn yn bwysig ac yn cael pob cyfle i ddatblygu ac ehangu doniau. Mae Corff Llywodraethol yr ysgol, y Pennaeth a’r staff wedi ymrwymo i gynnig sylfaen da i bob disgybl mewn awyrgylch gartrefol. Yn Ysgol y Moelwyn bydd eich plentyn yn derbyn:
-
addysg o safon uchel gan staff caredig a chydwybodol.
-
trefn a disgyblaeth dda.
-
awyrgylch ddiogel a chartrefol i dyfu ynddo.
-
dewis eang o weithgareddau allgyrsiol.
-
adnoddau a chyfleusterau safonol.